Microsoft word - cymraegllafargwent.doc

Mae'r Cadeirydd newydd fy nghyflwyno fel un o Dredegar, ac mae hynny'n iawn. Ond y gwir yw taw yn
Sirhywi y cefais fy ngeni a'm magu, sydd yn rhan o Dredegar erbyn hyn, ond sy'n ardal a ddatblygodd yn
sgil dechrau cloddio am fwyn haearn yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif. Mae datblygu yn air rhy fodern
i ddisgrifio'r ychydig resi o dai a godwyd fan hyn a fan draw wrth i'r gwaith ehangu. Roedd y tai a godwyd
i'r gweithwyr cyntaf wrth geg y gwaith: pedair rhes ohonyn nhw, a'r enw arnynt, yn naturiol, oedd Petar
Esdar:
erbyn fy amser i Four Rows. Oherwydd eu lleoliad doedd dim posib cadw'r tai yma'n lân, na rhai
tebyg iddynt a godwyd ychydig ar eu hôl. Yn erbyn y cefndir hwn, mae'n siwr, cefais siars gan fy mam i
bido gweud wrth neb fy mod i'n byw yn Sirhywi. Gwarth fyddai i deulu fel y ni gael ei ystyried yn aflan.
Doedd Sirhywi ddim yn bentre; codwyd rhesi o dai yn ôl yr angen, ac yn y mannau agosaf at y gwaith.
Codwyd ein rhesi ni yn 1910 ar waelod rhiw fawr Sirhywi wrth yr afod a'r rheilffordd. Roedd rhain yn dai
parchus, a'r tadau yn weithwyr swyddfa a siop, a'r ty bach ar waelod yr ardd. Y mannau pwysig yn fy
nghyfnod i oedd y dafarn fawr, Sirhywi Inn, yr ysgol a'r siop tsips.
Felly roedd yna ddwy Sirhywi, yr hen a'r cymharol newydd, a'r ddwy yn cyfarfod yn yr ysgol. Roedd criw
Petar Esdar yn dipyn o strabs. Doedd dim llawer wedi newid yn eu cartrefi nhw ers can mlynedd a mwy.
O ganlyniad, roedd rhai o'r plant yn dod i'r ysgol yn ddu bitsh. Roedd un bachgen yn fachgen mawr tal,
cymeriad o grwt. Dodd e, na'i ddillad, ddim yn gweld dwr a sebon yn aml. Roedd un o'r merched wedyn a
gwyneb bach crwn pert, ac roedd hitha â'i gwallt yn ffluwch ac yn sefyll ar ei phen. Roedd tuedd yndi hi i
lefain a'r dagra yn gwneud dwy rigol wen lawr ei bochau.
Roedd rhyw griw bach arall â'u mamau yn ymwybodol o'r enw gwael oedd gan deuluoedd Petar Estar,
fyddan nhw yn cael sgwrad iawn cyn dod i'r ysgol, ac ôl y wlanen wedi gwthio eu gwallt i sefyll oddi ar eu
talcen, ac ogla sebon carbolig arnyn nhw.
Roedd y plant hyn yn gneud mwy o swn na ni, ac rôn ni'n teimlo eu bod nhw'n cael mwy o sbort na ni. Ron
nhw hefyd yn siarad yn wahanol i ni, ac rôn ni am eu hefelychu. Ow be? oedd eu cyfarchiad nhw bob bore
a ninna'n atebYlo. Doedd ein mamau ddim yn hoff ohonon ni'n gofyn eniw comin, ond roedd yn sbort i ni.
Roedd yr hen bobl yn cyfarch ag Ow bi Iw? ac yn gofyn Be iw comin?
Rôn ni'n gwahaniaethu rhwng ynganiad hoarse (yn gryg) a horse (ceffyl). Roedd y ddau yr un sain iddyn
nhw: y bechgyn yma oedd yn treulio eu gyda'r nosau up Skipper. Be iw comin up Skipper tonight? Rôn
i'n gwybod fod pewn neu lyn bach ar ben y mynydd, rhyngddon ni a Ben-ca (Ben-ca yw'r dref a ail-
fedyddiwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 yn Glyn Ebwy) enw'r pewn yma oedd Skipper Wen.
Ymhen blynyddoedd wedyn, gwelais yr enw yn ysgrifenedig sef Ysgubor Wen a sylweddoli ein bod ni
blant i gyd, heb yn wybod i ni, yn cadw'r calediad.
Rôn i'n eithaf eiddigeddus o'r criw yma: rôn nhw'n cael bywyd mwy difyrrach na ni. Yn yr haf, roedden
nhw a'u teuluoedd yn mynd up the ops. Dôn i ddim yn gwbod ble rodd up the ops na beth ôn nhw'n neud
yno. Ond rôn nw'n colli wythnosau o ysgol. Ges wbod wedyn eu bod yn mynd i swydd Henffordd i dynnu
hopys. Digwyddais weld fan gelfi yn mynd â'u heiddo ryw fore Sadwrn: roedd yno fatresi, cadeiriau a bord.
Rôn i'n teimlo fy mod yn cael colled fawr wrth beidio mynd up the ops.
Dyna ddarlun o Sirhywi ond ble mae'r Sirhywi ma? Pan ddes i Gaerdydd yn niwedd fy arddegau, roedd fy
ffrindiau yn aml yn dweud, 'Wyt ti'n rêl cwm!' Roedden nhw yn fy ngweld i o safbwynt ieuenctid Caerdydd
ond roedd yr ymadrodd yn hollol ddiystyr i mi. Falle mod i'n fwy llythrennol yn y dyddiau hynny ond imi,
doeddwn i ddim yn byw mewn cwm a doedd rhannu'r cymoedd i ffurfio unedau gwleidyddol ddim wedi
digwydd. Wrth edrych yn ôl, petaen nhw wedi dweud 'Wyt ti'n rêl un o'r gwitha!', mi allwn fod wedi
cytuno â nhw.
Ond roedd dweud ein bod ni yn byw yn y cymoedd yn ddiystyr i mi a rhagfarn fy nhad lawer mwy
ystyrlon. Wrth drafod barn pobl Caerdydd am bobl blaenau'r cymoedd, roedd e'n honni, 'They think we live
up the 'ills up 'ere.'
Erbyn hyn, rwy'n gwybod fod sail i'w ragfarn. Mae gen i ddwy ffrind a ddaeth i
Gaerdydd yn athrawesau ifainc yn y pedwar degau. Daethant yn 1946 i letya gyda gyrrwr injan a'i wraig yn
Cathays. Roedd e yn Dori mawr oedd yn siarad iaith Kairdiff. Roedd ei wraig yn cadw ty ac yn dewis ei
dyddiau i fynd i'r dref i siopa yn ofalus. 'I don't go to town on a Thursday: they come down from the hills
on Thursday' Ac roedd hynny'n swnio'n ddirmygus iawn i fi. Ond yn ddiweddar, dywedodd rhywun wrthyf
fod Trefor Beasley wedi dweud wrth ei thad ei fod e wedi gorfod mynd o Llangennech Forgannwg i'r
mynydda i gael gwaith
. Adrodd ffaith oedd e, nid dweud yn ddirmygus o gwbl. Wrth i hwnna gael ei drosi
i'r Saesneg, pryd hynny daeth y newid ystyr, gyda threigl y blynyddoedd.
Mynd i'r mynydda wnaeth fy hen dadcu ar ochr fy mam, Alexander Griffiths, Ligsandar i'w deulu.
Cerddodd y gweundiroedd o'r Rasa i Sirhywi i chwilio am waith. Roedd hwn o'r un anian a'r un dafodiaith,
yn ôl y sôn, â'r bobl leol. Petai heb gael gwaith, fyddai wedi dal i fynd yn ei flaen nes cyrraedd Dwlish
(Dowlais) ac yna Myrthyr. Teithio ar draws blaenau'r cymoedd a wnâi'r bobl. Dim ond defaid oedd yn
pori'r cymoedd. O dan gramen y cilcin yma o ddaear ar draws y blaenau roedd yr haearn, y glo, a'r calch a
roes fywoliaeth i filoedd.
Yn niwedd fy arddegau hefyd sylweddolais fod hanes gwiw i'r Gymraeg yn Sirhywi. Estynnodd fy mamgu
lyfr carpiog, di-glawr o'i chwtsh imi ei weld, copi o Atgofion am Sirhywi a'r Cylch gan Myfyr Wyn oedd yn
enedigol o'r ardal. Yn 1898 yn ei lith i Darian y Gweithiwr- Roedd y gweithwyr â meddwl y byd o'r Darian
oedd yn bapur newydd radicalaidd oedd yn sgrifennu o blaid y gweithiwr cyffredin. Mae Myfyr Wyn felly
yn dychmygu ei hun yn feirniad eisteddfodol pwysfawr. Mae'n atgoffa ei ddarllenwyr am eisteddfodau'r
gorffennol
: Rwy am ei ddyfynnu am ei fod yn dal yn berthnasol heddi.
I'ch chi'n cofio pan o'ch chi a fi yn grots fel odd y barnwrs pryd hynny arfadd gweid, odd amball un yn cwnu lan ar y platfform a'i fys bawd y nhwll llewish ei wasgod, a bwndal o bapyrau yn y llaw arall,
ag ar ôl peswch ddwywaith neu dair, a dishgwl rownd i gal gweld os odd pawb yn dala notis, wetin bysa'n
dechra ar i fusnes run shwt a hyn ###
Derbyniwyd pedwar pishin ar y testyn, Pryddest i'r gath. Ai ymlaen i drafod y cystadleuydd HUWCYN ###
Ma pishin lled dda ar y cyfan gen hwn, ond fod a'n colli wrth sbelian, a ddim yn dyall dim am yr h.
Roedd hon yn hen drawiad. Yn 1856 roedd David Edwards, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn ysgrifennu:
Mae yr iaith Gymraeg, fel yr arferir hi yma, yn fwy cymysgedig a llygredig nag mewn un rhan o'r
Dywysogaeth. Mae y brodorion yn camseinio y llafariaid i,u y, mewn lliaws o eiriau. Rhoddant y gytsain h-
i mewn lle nad oes angen amdani, a thrachefn cymerant hi allan yn ofalus o liaws o eiriau y dylai fod
ynddynt. Caiff heddwch yr enaid fyned ganddynt yn 'eddwch yr henaid a hen eidion yn en eidion; hail
yn ail
ac felly yn y blaen.

Mae Thomas Jones wedyn, Y Thomas Jones a sefydlodd y Welsh Outlook, a ddaeth yn DDIRPRWY
YSGRIFENNYDD Y CABINET AC YN SEFYDLYDD COLEG HARLECH, a aned yn Rhymni, y dref
oedd nesag at Tredegar, yn 1870, yn sôn am ei deulu yn Rhymni Memories 'Deallaf ein bod wedi siarad
Cymraeg gartref nes imi fod yn chwech oed, ond wrth i'r plant fynd i'r ysgol, troes y teulu i siarad Saesneg
gan gadw'r Gymraeg at ddibenion crefydd. Mae'n canmol yr addysg a gafodd yn Rhymni ond yr oedd
ganddo un gwyn fawr yn erbyn ei ysgolfeistri. Hynny oedd na chafodd ei ddysgu i ddefnyddio h yn gywir.
Roedd gwybod pryd i ddefnyddio h- ar ddechrau gair yn faen tramgwydd iddo am flynyddoedd. Ac i
genedlaethau ar ei ôl e.
Clywais gyn-löwr yn siarad ar raglen newyddion ar achlysur agor Pwll Mawr fel atyniad twristaidd yn
1983: dyma oedd ganddo i'w ddweud.
I started work at the hage of fourteen, working with my huncle. My helder brother was also undergroun.
Yn ein hysgol ni, roedd pawb, o'r prifathro ei hun i'r plentyn llaeiaf yn gollwng yr h- ac yn gosod rhyw j
fach yn ei lle I can('t) jear you, roedd hynny'n hollol dderbyniol, ond cast arall a godson ni gan blant
Petar Estar oedd Ave you Jeard about . . jeard doedd hynny ddim yn dderbyniol gartre. na
drownded!
Ond yr oedd yr h- yn cael ei ddefnyddio er mwyn pwyslais.Gweiddir Eisht! ar blant neu gwn a chathod
oedd yn catw rali. Os nad oedd hynny'n cael yr effaith angenrheidiol, gweiddir Heisht! yn uwch.

Roedd yr hen goliars i gyd yn catw mochyn ac roedd gwybod pryd i ladd a phryd i halltu yn bwysig:
cymeriff y mochyn ddim o'r 'alan pan bo'r lluad yn llawn. Calan o alan a brynwyd. Yr oedd halen yn
sbardun i ddyn ac anifail. Roedd pob plentyn yn gyfarwydd â Dota'i alan ar dy gwt di os oedd yn
cambihafio. Anogaeth i ddynion os nad oedd y gwaith yn cael ei wneud fel y dylai odd 'Alan ar ei gwar i
nawr bois
. Anogaeth arall i weithiwr oedd Torch dy lewish, canon boi! (Roedd yn nhad yn byw yn
ymyl rhiw serth pan oedd yn blentyn a byddai ceffyl a chart yn dod â llysia neu olew lan i'r strydoedd. Ond
byddai'r hen geffyl yn nogio ar waelod y rhiw yn aml. Doedd dim amdani wedyn ond rhedeg i un o'r tai
cyfagos a gofyn am golsyn o'r tân. Dim ond rhoi'r colsyn poeth o dan ei gwt a byddai'r ceffyl yn mynd
nerth ei garnau lan y rhiw.)
Mae ansicrwydd hefyd ynglyn ag n ac r ar ddechrau gair. Rwy eisoes wedi sôn am Petar Estar, ac Estar
Dop
oedd y rhes uchaf o dai. Esderi yw'r lluosog. Dyma ddyn yn sôn am gynnwys ei ardd: Riwbob, dipyn
o barsli, resdar o letis, tatws, winwns a dwy rew o gabij.
Roedd ripyn hefyd yn cael ei ddefnyddio yn yr
ardd. Ribinwn i'r pishyn 'yn. Caiff ei ddefnyddio'n amlach fel pellter: Ma'n ripyn o ffordd o man 'yn.

Am yr n-: o dan ddaear lamp gola ôth oedd gan y coliars: gartre golau nwy oedd gan bawb, yn aml fyddai
hwnnw yn gola ôth hefyd. Roedd tymhereddd llaeth er enghraifft yn gallu bod yn bwysig wrth wneud caws
neu wrth wneud teisen naws y gwæd, oedd y dymheredd iawn ond byddai rhai yn dweud awsd y gwæd. (
Rwy'n teimlo nad oedd y gwragedd yn darllen llawer heblaw y lyfr emyna a'r Beibl. Roedd y dynion ar y
llaw arall yn cael blas mawr a gwybodaeth o ddarllen Tarian y Gweithiwr.) neu ma naws nêt ta'r tæn ma
Yna fel sydd yn digwydd mewn tafodieithoedd eraill, mae n- yn cael ei throsglwyddo i fod yn gytsain
gynta y gair dilynol. Odd i ddim nito dima goch. Mynd am nail. am yn ail. A'r hen lw. Wel Napad y
farn!
Yr oedd cytseiniaid eraill, hefyd yn mynd yn rhan o'r gair dilynol os oedd hwnnw'n dechra a
llafariad: Beth rots?
Roedd y cyfnewid cytseiniaid yn gyffredin. Digwydd w yn eithaf cyffredin yn lle f. Walla daw a. Waint o
glenig gethot ti? ma shwt en waldod dag a! 'Na beth odd y weriad amsar 'ny.
Gall ddigwydd hefyd yng
nghanol gair llyswam.
Roedd ffurf negyddol siaradwyr hyn y dafodiaith yn ddiddorol iawn: Yn eu hiaith nhw, roedd G- yn
negyddu'r ferf bod, Gwi ddim llinci'r athrawiath na tabeth. Gyn nw ddim cretu ynny eddi. Wel, gwn i
yn y byd beth odd wnna'n ddæ. Gwi ddim yn arfadd og e. Gyw i ddim nitha peth.
Enghreifftiau o newid cyseiniaid ar ddiwedd gair yw dd yn lle r yn arfadd: Dinon sydd yn arfadd u
cwrdda
ac dd yn lle r. I ddweud y gwir mae llawer anos gweud arfadd nag arfar

Mae geiriau bach eraill sy'n rhan o wead y dafodiaith, y diweddebau sy'n dod ar ddiwedd brawddeg. Roedd
shwt yn air bach defnyddiol. Fodd bynnag yw ei ystyr ar ddiwedd brawddeg. Mae'n digwydd mewn
cymhariaeth: os oes dau yn siarad ac un ohonynt yn camol person arall, gallai'r llall ateb Yti sbwzo, ond
alla'i ddim cmeryd ato, shwt
. neu petai'r person dan sylw yn anystywallt gallai'r ateb fod Yti, Biswn i
fawr odro yn ei sgwaro fa, shwt
. Mae raid, neu rhaid i chi, yn cael ei drin fel berf ar ddiwedd brawddeg
sy'n gofyn cwestiwn. Byddai tafodieithoedd eraill yn defnyddio. Ond dos e? Raid inni bido ymyrrath a
gwaith y Bod Mawr, raid a?
Un arall oedd yn cynnwys rhybudd bygythiol. I ddaw yn gallach, der di.
Alla'i glywed fy mam yn dweud nawr, You'll get wiser, come you.
Dyna frasamcan o seiniau'r dafodiaith

Pa fath o gymdeithas oedd hon?
Roedd hi'n gymdeithas gymysg; roedd hynny i'w ddisgwyl. Daeth pobl o rannau eraill o Gymru, o Loegr a'r
Iwerddon. Ac eto, aros yn eu cynefin wnaeth y brodorion gan wylio'r bobl ddwad a gwneud sylw o'u
harferion. Gellid dweud ei bod yn gymdeithas fewnblyg a phobl yn gwylio'u gilydd. Doedd dim
dylanwadau allanol arni, roedden nhw'n creu eu difyrrwch wrth ddilyn helyntion pobl eraill.
Mae'r haneswyr yn tynnu sylw at yr elyniaeth oedd rhwng y Cymry a'r Gwyddelod a ddaeth i dde Cymru
yn dilyn cyfnodau o brinder yn yr Iwerddon. Cafwyd protestiadau croch yn eu herbyn yng Nghwm Rhymni
yn 1825. Ym mhob ardal bron, aethon nhw i fyw yn y tai gwaethaf, y rhai a godwyd flynyddoedd ynghynt,
i'r gweithwyr haearn, ac o fyw yno, roedden nhw'n cael yr enw o fod yn frwnt ac yn ffraellyd. Plant Mari
oedd yr enw ar y Gwyddelod. Os oedd rhyw ffrae neu ddadlau cwrs rhwng pobl yn eu maint neu blant y
cerydd fyddai: Chi'n wæth na Plant Mari gan ychwanegu A ma reina'n wæth na'r crafu. Os oedd
rhywun yn gwishgo dillad blêr, di-raen: Ti'n dishgwl fel un o blant Mari yn y dillad na. Roedd gwedd
arall ar bersonolaeth y Gwyddelod yn cael ei gofio hefyd. Roedd plentyn ffel oedd a'r ddawn i gocso yn 'en
Badi wyt ti
yn cael ei ddweud yn ddi-faleis, ond fe gâi ei ddweud â thinc rhybuddiol yn y llais wrth
ddweud 'en Badi yw e: gwyliwch chi'ch cam. Padïas. Ma cwilydd arno'i gyfadde fod fy mam yn un o'r
rhain oedd yn cofio hyd y nawfed ach hefyd. Os oedd sôn, yn y papur lleol, am rywun wedi lladrata neu
gamymddwyn fyddai fy mam yn rhoi terfyn ar bob trafod gyda Wel Ol' Irish they are see.
Nid cenedligrwydd yn unig oedd yn creu gwahaniaethau rhwng pobl. Roedd rywun o off yw e yn ddigon i
esbonio ymddygiad rhyfedd. Bron nad oedd rhywun o dros y mynydd yn rhywun o off. Roedd pobl Benc-
ca
yn ystod fy mhlentyndod yn cael yr enw o fod yn bennau mawr.
Doedd dim gelyniaeth amlwg rhwng y Cymry a'r Saeson, doedd dim llawer yn dod i'rardal ond ymdeimlid
â'r gwahaniaeth; Rial en Saeson yn nw. A'r farn oedd fod tipyn o Shwd ych chi eddi abythdi'r Saeson.
Yn 1833-34, trowyd cwrs yr afon Rhymni. Cyflogid dynion o bob cenedl a brith yno, ond bach iawn oedd y
cyflog. Dywedir taw ar datws a sgatan oedd y mwyafrif yn byw. Amsar tatws a sgatan oedd hynny a
pharheir i ddefnyddio'r ymadrodd mewn cyfnod o lymder. Sgadenyn sgatan. Sgatan Aberporth/Dou fola
mwn un corff. Sgatan allt
= bloater
Yn 1888, enillodd Mabon fuddugoliaeth fawr i'r glowyr pan sicrhaodd ddiwrnod o seibiant ar ddydd Llun
cyntaf bob mish. Daeth yr arfer i ben yn 1898. Yng ngweithfeydd blaenau'r cymoedd parheid i daw Mabons
Day, unwaith y flwyddyn ar y cyntaf o Fai. Cynhelid cyfarfodydd ac amball Eisteddfod gyda brwdfrydedd
mawr. Byddai amball un yn gor-ddathlu ac yn methu cwnu i ddal y trên bore trannoeth. Pan gollai shifft
dydd Mawrth, dywedid ei fod yn cael Mrs Mabon's Day.
Ymadrodd sy'n deillio o'r gwaith glo yw gwg mish pump. Yr un arian a dalwyd i'r gweithiwr p'un ai oedd
yn fis o 4 neu o 5 wythnos. Mae'n dal i gael ei weud. Well i fi fwstro neu fydd gwg mish pump ar dy dæd.
Marc i'r bedd oedd marc glas y coliar.
Does dim angen dweud taw merched oedd yn rheoli'r aelwyd, ac am hynny nhw fyddai dan y lach amlaf.
Nhw hefyd fyddai'n direpu ei gilydd wrth alw un yn ddiprish a'r nall yn ddidorath. I'n clustia ni roedd
geiriau digon maleisus yn cael eu defnyddio. En sgrafall o fenyw: menyw frathog oedd honna; sgrafall a
ddefnyddid i dynnu'r cols o'r tæn, en sgiwran, en gwan yw i. Merch anniban ei chartra, odd hi'n sgaprwth.
Roedd en sguthan yn cadw ei hunan yn smart ond roedd ei thy yn drewi. Roedd 'en yn cael ei roi o flaen
bob un o'r rhain i gryfhau'r ystyr.
Merched fyddai'n digwydd cwrdd â'i gilydd yn ddyddiol bron, ac yn cantan ne yn clecan: Yn naturiol
byddai ryw anas neu elynt i gliwad bob dydd. Os oedd un ohonynt yn gwrando'n astud ond ddim yn
cyfrannu at y sgwrs, y sylw fyddai Wch fyd yw onna. Doedd dim angen dweud mwy: rodd pawb yn
gyfarwydd ag wch fyd a fyt y sog i gyd. Yn ei thro, roedd pob gwraig yn gallu ei gweud hi'n fæn ac yn
amal
. Roedd amball un â'r ddawn o ffrio sha'i chysgod neu o ala rynt y gæth a'i chwtyn. Byddai pawb yn
falch o weld cefan amball un i, Wyl wynt iddi chefan i fydda'r ymadrodd wedyn. Dwn i ddim pwy
fedyddiodd menyw fawr dew yn gasag dwy ddram.
Mae yna ryw air bach rwy wedi bod yn gweld trwy lygaid yr ugeinfed ganrif. Roedd sôn am fenyw oedd yn
byw ar ei phen ei hunan mewn ty mawr Treni amdeni, mae mor ddi-ddyn yn y ty mawr na. Rwy wedi
bod yn dehongli hwnna fel petai hi'n byw heb wr neu ddyn yn y ty. Ond dinon yw'r gair am bobl nid am
wrywod, Faint o ddinon odd yn y cwrdd eno? ac felly mae bod yn ddi-ddyn yn golygu yn ddi-gwmni yn
hytrach na heb gwmni gwrywaidd. Defnyddir dyn yn ddi-acen fel rhagenw amhersonol. Ma'n ddicon i
gwpla dyn. ma dyn yn myn i ama pawb.
PLANT
Mae magu plant yn gofyn am eirfa newydd. Roedd plentyn yn llefan y glaw ne yn llefan y dwr. Ond yr un
at iws oedd Llef di, (mwya gyd llefi di) lleia gyd pishi di!

Fyddai rhywun yn anwylo plentyn â Dere ma yfryd/ Come by jere lovely: ren galon shag yt ti: Be ti
moyn, calon
? Shitan, shitan glæn Mangu. Doedd Dere ma cariad byth yn cael ei ddefnyddio. Y gair
anwes a fyddai'n cwmpasu pawb oedd Bech.
Os oedd rhywun yn colli amynedd a phlentyn llefllyd, y gorchymyn fyddai, O bydd dawal yr en fapa
shag yt ti.
Roedd bapa hefyd yn cael ei ddefnyddio am bobl yn eu maint. En fapa o ddyn, ne en fapa dol
yw'r crwtyn na. Y babi mwya shag yt ti - wrth blentyn sydd wastad wrth gwt ei fam, neu sy'n galw ar ei
fam i'w amddiffyn yn wyneb gwawd ei ffrindiau. Roedd rhywun di-ddal roedd mor ddi-ddal â babi
blwydd.
Os oedd gan rywun groen hyfryd, roedd ei groen fel pen-ôl babi. Plant bach annwyl yn denu
sylw: Shgwl ar y truan bæch! Be sy'n bod ar y Cristion bæch? Tindwyro a tolach plentyn ffel oedd
rhywun yn ei wneud.
Pan fyddai'r plentyn yn rhoi mwythau i'w famgu, Swci mwci oedd e, neu swci mwc.
Roedd tuedd i gwtogi ambell air Rho hwnna yn dy boc, Os nishad boc tach chi? Enghraifft arall fyddai
am ferch neu fenyw fach dwt; un fach fit odd 'i. Os oedd dipyn o gnawd arni pwlffan a pwllffyn fyddan
nhw. Pan ai'r plentyn i'r gwely, bydda fe'n gweiddi Nos da bob un a byddai'r teulu'n ymateb â Cysg yn
dawal.
Pan ddaeth hi'n ffasiwn i roi enwau Cymraeg ar blant unwaith eto, roedd rhai enwau bedydd nad oedd yn
gymeradwy oherwydd eu cysylltiadau tafodieithol. Roedd Siân yn un am y cai ei ddefnyddio'n sarhaus.
Dere nawr, Shæn. Roedd Betsi yn un arall am ei fod yn disgrifio dyn benywaidd ei ffordd. Gallai galw
Shincyn ar fachgen ddisgrifio crwt direidus neu ddyn drwg. Roedd Shoni bob ochor yn ritag gita'r cùn a'r
canddoid
.
Roedd dyn diog yn cael ei ddisgrifio fel Shoni lonydd . Roedd Sioni yn cael amser caled,Ti'n
dishgwl fel rw 'en Shoni yn y got na
.

Eto doedd pawb ddim yn gallu dygymod a'r ffasiwn newydd o enwau Saesneg chwaith Enwa cwn a catha
sy ar blant eddi.
Mae enwau tylwythau'r ardal yn dal i ddangos crefft eu cyndeidiau. Teulu mawr yn y cylch yw'r Sâz am
mai saer oedd yr hen dadcu. Un arall yw'r Carts am fod yr hen dadcu yn gwerthu nwyddau o'i geffyl a
chart. Cafodd y Calchwrs eu henw am fod Tommy Jones yn gwerthu calch o dß i dß gan ganu ei gloch i
ddweud ei fod wedi cyrraedd. Y Mochwrs oedd yn magu moch a tad Blawdo oedd yn arfer gwerthu blawd.

Pan ddeuai'n amser i ddisgyblu plentyn doedd dim pall ar y bygythion. Weithiau byddai ialan fetw ne Jini
Fetw
wrth ochr y lle tân yn ddigon. Ond byddai ambell blentyn yn pleto'r du yn wyn a'r coch yn felyn
wrth bledio'n ddieuog. Rhoddid rhybudd cyn bygwth cosb: Taw sôn neu Gæt dy fwstwr, Deio dy
grwmpyn di!
Wedyn deuai'r gair cryfach: Cot ar dy ben ôl gei di, yr en gorgi shag yt ti: clatshan gei di
pan ddaw dy dæd sha thre.
Y tæd odd y disgyblwr go iawn. I gwna'i dy grôn di: I dorra'i'r ffon 'yn ar
dy gefan di! Byddi di'n cael gwaith y crydd yn dy glai.
Ond ai defnyddio'r geiriau hyn i ddisgyblu'r
bechgyn yn unig a wnai?
Roedd bratu plentyn neu bratu arian yn bechod mawr: bratus yw'r ansoddair. Bratath neu bratach yw'r
ansoddair. Sdim bratath mwn buwch.
Cymeriad lliwgar: bachan butur, llaw butur.

Roedd plentyn wystad yn holi; Ble ti mynd? Yr ateb slic odd Cwmsgwt. Ble ti wedi bod? Elcawawcs.
Cyn dyddiau'r teledu, roedd plentyn wystod yn gofyn, beth allai neud? ble ga'i fynd? roedd hi fel tôn gron
a'r ymateb fyddai
Yr un en gân da'r gwcw
neu petai yn ffilu eiste'n llonydd:
Wyt ti fel lluan mwn crachan
neu os rhywun yn canu wrth y ford Yr infyd a gân wrth ei fwyd

Wrth i'r plant dyfu yn bobl ifanc, a dilyn eu trywydd eu hunain y cwynion fyddai
Ma plant 'eddi næn nw ddim pen pwyth ichi, a'r llall oedd nad ydynt Byth yn neud clust o beth ni'n
gweud.


Os oedd unrhywun yn ffilu aros yn ei chartref ei hun yn hir iawn neu am fynd i'r dre o hyd Ma'r perc yn ei
choes hi.
Mae'n un o eiriau nododd Iolo Morgannwg yn y Wenhwyseg ond dwy ddim yn hollol siwr o'i
ystyr.

SAESNEG
Gofynnwyd imi lunio pwt ar iaith lafar Gwent pan ddaeth yr Eisteddfod i Gasnewydd yn 1988. Yr oedd yn
dasg a achosodd gryn benbleth imi. Mi fasai wedi bod yn gamp i gywasgu'r Wenhwyseg i 10 munud. Felly,
ar ôl hir bendroni, penderfynais sôn am y geiriau a'r ymadroddion Cymraeg oedd yn dal yn ein Saesneg ni
pan oeddwn yn blentyn. Er imi siarad yn bersonol a theuluol y pryd hynny, yr oedd ein tafodiaith yn
gyffredin i holl hen deuluoedd Cymreigaidd os nad Cymraeg eu hiaith. Fy nadl i oedd fod llawer iawn o
bobol, yr adeg honno beth bynnag, yn siarad iaith oedd yn gyfieithad o'r Gymraeg.
Ond wedi'r traethu, fel yr oeddwn wedi ofni, yr oedd ambell un yn barnu fy mod wedi siarad am Saesneg
Gwent ac nid am y Gymraeg.
Wnaeth hynny ddim torri nghrib i'n llwyr ac rwy am nodi ambell enghraifft heddi. Bosh yw'r unig air a
ddefnyddir heddi am yr hyn a elwir yn sinc mawr hirsgwar. Mae'n air a ddefnyddid yn y gwaith haearn a
mwyngloddio yn Lloegr.
Mae nesh yn air bach digon tebyg. Caiff ei ddefnyddio yn ardaloedd amaethyddol de Lloegr. Yno mae
gwair pryd mae'm ifanc ac ir, neu gig tyner yn nesh.
Pobl yn unig sy'n nesh yn ein hardal ni, ac hefyd yn Sir Drefaldwyn. Mae'n cael ei ddefnyddio mewn ystyr
fychanus ond gyda rhyw awgrym o dynnu coes.Co is cold today ei ateb fydda you must be gettin nesh in
your old age
.
Wi hefyd yn cyplysu cewc a wewcs. Ma'r rhain yn gweithio yn yr un ffordd yn y ddwy iaith.
cewc; golwg ar rywbeth: Sda fi ddim llawar o gewc ar wnna. I got no cewc on it at all. I got no look
on it.
Am fenyw fedrus, dywedid bod dipyn o gewc ar onna
wewcs:
Dyn a wyr beth yw union ystyr wewcs. Am declyn: Amharodrwydd i weithio, Its got the wewcs
right enough. Am berson: She got the wewcs on 'er. rhyw fympwyon.
Rôn i'n meddwl y byddech yn hoffi clywed y dweud dwyieithog yma. cwato yw'r bôn:Cwot lawr fyddai'r
gorchymyn i blentyn neu Cwot that before your mother gets home, neu am blentyn a'i guddfan E got a
cwot up the back
.
Roedd y geiriau hyn yn gyffredin iawn: fel odd sbrachi: Wel thas a sbrachi ol thing that is: Ma'r tæn
na'n etrach yn lled sbrachi ed
. ddim fel y dylai fod, ddim at y safon disgwyliedig ac fe wedodd rhywun
wrtha'i llai na mis yn ôl eu bod nhw, yn Nhrefforest, yn defnyddio sbrachi yn eu Saesneg nhw.

Roedd geiriau eraill fel taro You can depend on er when there's taro
blas: Nid blâs ond blas
I got no blas on it somehow
para byth: geiriau bach defnyddiol iawn am rywbeth sy'n hen ond yn dal i gael eu defnyddio: am sgitsha a
dillad neu lestri.
Roedd y terfyniad berfol Saesneg -ing yn cael ei ychwanegu ar fôn Cymraeg:wilmentin'
chwilio'n ddyfal ond yn aml yn ddi-bwrpas, ac yn shamblachu'r dreirau wrth wneud.
Côn -in: mae hyd yn oed swn hwn yn cryfhau'r ystyr. O e's always Côn -in.
Poenin:
am brofocio neu dynnu coes
Clecin': cario clecs

Un a glywais gan frawd fy mam. Roedd y fenyw drws nesaf iddo yn achwyn poen yn ei bysedd yn ystod y
tiwydd sgelar, An I told e, medda fy ewythr. Its windro you got. Dyna'r unig air oedd ganddo i ddisgrifio'r
cyflwr yna, llosg eira.
Ynglyn â dywediadau yr oedd yn gyffredin Brawd moci yw tacu: Yn sytan daw Dy Satwn: Ma dy licad
yn fwy na dy fola ond yr oedd dywediad Saesneg oedd yn ergydio'n dda: Better belly bust than good
food waste. Gwell bola ollti na bwyd dæ i fratu.

Ffordd o gysuro rhywun pan fo'n teimlo o dan y don: er ei fod yn helbulus ar y pryd, nid o dragwyddol
bwys Mae mwy o gollad o fodd cyn brecwast. Rwy'n cofio mamgu a'i chwaer, rywdro, yn teimlo eu bod
wedi bod yn rhy llawdrwm arna'i ond nad oeddwn fawr gwaeth wedi cael y cerydd, a'r naill yn dweud wrth
y llall, 'Do you remember what my father used to say? Ma pawb a'u bat ar Pympi ond Pympi'n byw er
'ynny
.Yr oedd fy hen dadcu yn enwog am ei ffraethineb ond dwn i ddim ai perthyn i'r teulu yn unig yr
oedd neu i'r ardal. Claddais y peth ym mhellter y cof am flynyddoedd am fod arnaf ofn edrych yn ei lygad.
Pan fagais ddigon o galon i wneud darganfyddais fod Pompey (a P fawr) yn Saesneg yn gallu golygu
cwrwgl, tecetl a bachgen bach. Mae hefyd yn llysenw ar chwaraewyr pêl-droed tref Portsmouth.
Mae ansicrwydd yn fy meddwl am y ddau dywediad nesaf, y tro hwn mae'r ansicrwydd ynglyn â'r gynffon.
Pan fyddwn yn gwisgo dillad lliwgar neu wahanol i arfer, yr ymateb fyddai Mae'n well bod mas o'r byd
na mas o'r ffasiwn, ys gwetws yr en fenyw wrth y mwnci.
Y llall yw pan fyddai rhywun yn trin a thrafod
personoliaethau, y sylw fydda
Wel na fe, Llawer o siort sy yn y byd, ysgwetws yr hen fenyw wrth y mwnci.
A dyma un arall, sydd wrth gwrs ym mhob iaith ond gyda chynffon wahanol
Ma pob dicyn bæch yn elp, ys gwetws yr en raig amsar bishws i yn y môr.
Rwy'n dod at yr olaf un nawr ac at un sydd wedi bod gen i erioed. Gellir dweud bod hwn yn Saesneg hefyd.
Yr oeddwn yn blentyn yn ystod y rhyfel pan oedd dillad ar gwponau. Yr oedd fy mam yn wraig ddarbodus,
ac o ganlyniad, prynai ddillad oedd lawer rhy fawr i fi ar y pryd ond a fydda'n para. Pan fyddwn i'n
protestio ei hateb sydyn oedd
Boy grow, coat (w)ont
Aeth yn jôc deuluol. Dim ond i'n ewyrth fy ngweld i mewn pilyn newydd, bydda'n dweud Boy grow again
Mes is it?
Meddyliwch y wefr a gefais pan welais y geiriau hyn yn Llyfr Coch Hergest Tyfid maban ni
thyf ei gadachan.
Cafodd y geiriau hynny eu gosod ar glawr yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yr
oedd fy mam yn eu defnyddio, mewn cyfieithiad, yng nghanol yr ugeinfed ganrif.
4837

Source: http://www.cyfieithwyrcymru.co.uk/content/uploads/documents/cymraegllafargwent.pdf

Peninsula-delaware conference of the united methodist church

Peninsula-Delaware Conference of the United Methodist Church 1 Day Service Project 2014 MEDICAL RECORD AND LIABILITY RELEASE FORM (Each person must bring this form with them in order to register. Persons without a form will not be able to attend.) Date of conference: April 5, 2014 Church: _________________________________________ Date signed: _______________ SECTION 1: MEDICAL

castrolindustrial.ro

Product Data Castrol Olit CLS Range Description Castrol Olit™ CLS Range are extremely water-resistant highperformance semi-fluid greases on a lithium/calcium basis. Excellent rheological properties in combination with an optimum low-temperature behavior ensure a wide range ofapplications. The Olit CLS greases feature an excellent corrosion protection as well as a high resistance to

Copyright © 2010 Medicament Inoculation Pdf